Newyddion Diweddaraf

Adroddiad ar Gynhadledd Eustory 2018 yn Berlin gan Cai Fon o Brifysgol Bangor (gynt o Ysgol Tryfan)

Llunorgynhadledd

Fis Tachwedd, bûm yn ddigon ffodus i gael y cyfle i gynrychioli Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol yng nghynhadledd hanes EUSTORY a gynhaliwyd ym Merlin. Daeth yr anrhydedd yma i’m rhan wedi i Ysgol Tryfan ennill gwobr EUSTORY yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2017, a hynny drwy gwblhau gwaith ymchwil a chynhyrchu adnoddau digidol newydd yn seiliedig ar y Rhyfel Mawr, a’u bwydo i mewn i ap ‘Wales and the War’ a gyflwynwyd yn lleol, gan ddefnyddio llyfr Cofeb y Dewrion - sy’n coffáu’r dynion ifanc hynny o’m ardal a fu farw - fel canolbwynt i’r prosiect.

LlunohonafynareithioynrowndderfynolTheGreatDebateCefais innau fy ysbrydoli gan y prosiect hwn i gystadlu yng nghystadleuaeth areithio ‘The Great Debate’ - cystadleuaeth sy’n cael ei threfnu’n flynyddol gan y Gymdeithas Hanes Prydeinig. Gan mai eisteddfota yw un o’m hoff bethau - ’roedd y cyfle i blethu dau o’m diddordebau pennaf - perfformio a hanes - yn arbennig. Yn wir, fis Mawrth 2017, cyrhaeddais rownd derfynol y gystadleuaeth yn yr Amgueddfa Ryfel yn Llundain, lle bu’n rhaid i mi areithio a chyflawni gwaith ymchwil ar effaith y Rhyfel Mawr arna i a fy nghymuned. Mewn cystadleuaeth o safon uchel iawn, ’roedd yn anrhydedd i dderbyn gwobr o ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, a hynny allan o ugain o siaradwyr ifanc gorau’r wlad. Cyflwynwyd fy araith a’r holl waith ymchwil a wnes ar ei chyfer fel rhan o brosiect buddugol Ysgol Tryfan yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, a bûm yn ddigon lwcus o gael fy newis i gynrychioli’r Ysgol a Chymru gyfan yng nghynhadledd EUSTORY yn 2017.

Braint felly oedd cael gwahoddiad yn ôl i Ferlin i gymryd rhan yng nghynhadledd EUSTORY unwaith eto yn 2018. Y cam cyntaf i mi oedd teithio (ar fy mhen fy hun!) i Ferlin i gymryd rhan yn y gynhadledd, a gynhaliwyd dros gyfnod o bedwar diwrnod, a hynny mewn canolfan ddiwylliannol rhyw ugain munud o ganol Berlin ar yr S-Bahn. Prif drywydd y gynhadledd oedd pwysleisio’r angen i gynnal heddwch yn Ewrop, a pharhau i feithrin dealltwriaeth rhwng gwledydd Ewrop - neges sy’n addas iawn o gofio ein bod wedi coffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf llynedd. Cyfres o weithdai gwahanol oedd yn ymdrin ag agweddau penodol o hanes oedd y gynhadledd i bob pwrpas, ac ’roedd disgwyl i ni gyflwyno'r gwaith a gyflawnwyd yn y gweithdai i weddill y cynadleddwyr ar y diwedd.

’Roedd y gweithdy y cymerais i ran ynddo’n rhoi sylw i unigolion sydd wedi ymgyrchu er mwyn ceisio sicrhau newid. Yn y gweithdy, ysgogwyd cwestiynau dyrys ynghylch y graddau y gellid cyfiawnhau gweithredu yn erbyn y status quo er mwyn gwireddu’r hyn y mae pobl yn credu ynddynt. ’Roedd cyfarfod â Dotschy Reinhardt - sydd wedi ymgyrchu’n ddiflino dros sicrhau cydraddoldeb i bobl o dras Romani oddi mewn i’r Almaen, ac sydd yn parhau i godi’i llais er mwyn ceisio newid agweddau ei chyd-Almaenwyr tuag at leiafrifoedd ethnig - yn hynod ddifyr. Pleser mawr oedd cydweithio â chwmni dramatig Almaeneg i gynhyrchu cyflwyniad dramatig yn seiliedig ar hanes Dotschy, a braint oedd cyflwyno’i stori ar ddiwedd y gynhadledd.

’Roedd cael y profiad o grwydro o amgylch y Berlin hefyd yn syfrdanol, a bûm yn ymweld â rhai o fannau mwyaf eiconig y ddinas hanesyddol - adeilad y Reichstag, Porth Brandenburg a gweddillion Wal Berlin i enwi dim ond rhai. Serch hynny, efallai mai’r peth mwyaf gwerthfawr y deuthum yn ôl i Gymru gyda mi oedd y bobl o bob cwr o Ewrop y gwnes eu cyfarfod ym Merlin. Yn ogystal, ’roedd cael sgyrsiau gyda rhai o fy nghyd-gynadleddwyr, gan gnoi cil ar faterion cyfoes (testun y mwyafrif helaeth o’r ymgomio hyn oedd pobl yn gofyn i mi beth oedd fy marn ar Brexit, fel y gallwch ddychmygu!) yn ogystal ag ar bynciau llosg eraill yn hynod ddiddorol. Mae gwneud ffrindiau newydd o bedwar ban cyfandir Ewrop wedi atgyfnerthu fy safiad bod hanes nid yn unig yn allweddol er mwyn magu dealltwriaeth o bobl, ond hefyd yn fodd i ni gofleidio’r gwerthoedd cyffredinol hynny sy’n ein huno fel Ewropeaid; gwerthoedd sy’n allweddol er mwyn cynnal heddwch a chytgord rhwng cenhedloedd ar gyfandir Ewrop a thu hwnt ar gyfer y dyfodol.

Mae cynrychioli Cymru yng nghynhadledd EUSTORY am y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, a bydd yr atgofion a wnes ym Merlin yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer. Hoffwn ddiolch i Mr Meurig Jones, fy athro hanes yn Ysgol Tryfan am fy ysgogi i gystadlu yn y gystadleuaeth areithio flwyddyn ddiwethaf; am fy helpu wrth i mi gasglu’r holl waith ymchwil a chaniatáu i’m gwaith gael ei gynnwys ym mhrosiect buddugol yr ysgol; a hefyd am ei gymorth a’i gyngor amhrisiadwy ar hyd y daith. Hoffwn hefyd ddiolch i Mrs. Eleri Hunter ac Adran Saesneg Ysgol Tryfan am fy mharatoi a’m trwytho i gystadlu’n y gystadleuaeth areithio. Yn ogystal, hoffwn roi diolch i Adran Gymraeg ac Adran Hanes Prifysgol Bangor am fy rhyddhau o’m darlithoedd er mwyn i mi allu mynychu’r gynhadledd; ac yn olaf, ond yn sicr nid lleiaf, hoffwn ddiolch i Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig am ganiatáu i’r cyfle fod ar gael i Gymry ifanc sy’n frwdfrydig am hanes, eu treftadaeth a’u gwreiddiau, i feddu ar brofiadau ac atgofion anhygoel!


Disgyblion Ysgol Gyfun Bryntirion, buddugwyr cystadleuaeth MYDG, yn ymweld â Thŷ’r Arglwyddi.

HousesOfParliament

‘Dull o reoli lle mai’r rhydd yn rheoli yw Democratiaeth’ - Aristotle

Tra’n eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi uwchben yr Arglwydd Fowler a’r ‘sach wlân’ enwog, roedd hi’n hawdd anghofio mai disgyblion yn ein harddegau o ysgol gyfun yn ne Cymru oedden ni. Oddi tanom, roedd Barwnes yn holi’r llywodraeth pa gynlluniau oedd ar y gweill i sicrhau digon o fwyd yn dilyn Brexit os nad oedd dêl yn ei lle. Roedden ni wedi gweld trafodaethau yn y lle hanesyddol hwn ar y teledu, yn enwedig yn ystod y cyfnod cyffrous cyn ein hymweliad, ond roedd gweld dyfodol ein gwlad yn cael ei benderfynu o flaen ein llygaid yn drawiadol iawn.

Roedden ni wedi ennill Gwobr yr Arglwydd Brooke yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, cyfle arbennig o freintiedig i ymweld â’r Senedd a chael ein tywys o’i chwmpas gan y Barwn Brooke o Alverthorpe. Prin y gwyddem wrth gychwyn y bore hwnnw mor drwyadl fyddai ein taith o gwmpas Palas San Steffan. Ymunodd ein hathro â ni mewn rhyfeddod wrth i’r Arglwydd Brooke ein tywys yn frwdfrydig trwy fanylion eithaf y neuaddau enwog. Yn ogystal â chael gweld Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi cawsom archwilio gweddill yr adeilad a cherdded yn ôl traed pobl fel Emily Davison yng Nghapel Is-grofft y Santes Fair a Nelson Mandela yn Neuadd San Steffan. Roedd y cyfle i weld lleoedd mor hanesyddol a phwysig yn wleidyddol yn ysbrydoledig a gadawyd ni nid yn unig â dealltwriaeth well o hanes a chyfansoddiad ein gwlad, ond hefyd gan ystod o gwestiynau y bu’r Arglwydd Brooke yn barod iawn i’w hateb o’i wybodaeth a’i brofiad ei hun.

Roedd dychwelyd i’r ysgol yn dilyn ein hymweliad braidd yn drist. Tra’r oeddem mor frwdfrydig â’r Arglwydd Brooke i rannu hanesion gyda’n cyfoedion, y diwrnod cynt roeddem wedi eistedd yn Neuadd Fwyta’r Arglwyddi yn San Steffan, yn rhannu te a chacennau gyda’r Barwn a hanesydd enwog, ymhlith eraill. Bu profiad o’r fath yn fraint na fyddwn yn ei hanghofio’n hawdd, ac roeddem yn hynod ddiolchgar amdani. Wrth i ni adlewyrchu ar y profiad gyda’n hathro ar y ffordd yn ôl, roedd cynnig ein gwaith i sylw Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig wedi bod yn benderfyniad a brofodd ein hyder, ond yn un y byddem yn ei argymell i bob disgybl arall. O’n safbwynt ni, diflannodd bob ansicrwydd yn ystod ein diwrnod yn Llundain, a chytunon ni’n unfrydol na allem aros cyn rhoi cynnig arall arni'r flwyddyn nesaf!

-Molly-May Cook, Kayleigh Mackay a Benjamin Lewis, Enillwyr Gwobr yr Arglwydd Brooke, Ysgol Gyfun Bryntirion